Sean Crowley
Cyfarwyddwr Drama
Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth
Adran: Pres
Anrhydeddau: BMus (Anrh), MMus, PhD (Llundain)
Gradd gyntaf Sarah oedd BMus (Anrh) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle y datblygodd ddiddordeb mewn ymchwil ym maes perfformio cerddoriaeth. Cwblhaodd MMus mewn Astudiaethau Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway, Llundain, ac wedyn PhD ar ddadansoddi a pherfformio gwead yng ngherddoriaeth piano Scriabin. Fel pianydd, mae Sarah wedi perfformio mewn llawer man yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig yn ardal ei magwraeth yn ne Cymru.
Mae Sarah ar dîm addysgu nifer o fodiwlau cerddoriaeth israddedig ac ôl-raddedig, ac mae hefyd yn goruchwylio amryw brosiectau ymchwil a darlith-ddatganiadau. Mae ei phrif ddiddordebau’n cynnwys ymagweddau at addysgu offerynnol ac archwilio cysylltiadau rhwng perfformio ac astudio cerddoriaeth yn gyd-destunol. Am flynyddoedd lawer, bu’n addysgu’r piano yn Nghonservatoire Iau CBCDC, ac mae’n parhau i fod yn athro piano gweithgar. Mae’n mwynhau datblygu syniadau ar addysgu offerynnol fel rhan o’r modiwlau sgiliau addysgu israddedig ac ôl-raddedig yn CBCDC.
Yn ogystal â’i swydd yn CBCDC, mae Sarah yn gweithio fel arholwr i’r Associated Board of the Royal Schools of Music, gan deithio i’r Eidal, Malaysia a phob rhan o’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r rôl. Mae hefyd yn mwynhau beirniadu mewn gwyliau cerddoriaeth.