Darren Smith
Tiwtor Trombôn Bas
Mae Lynne Plowman wedi hen ennill ei phlwyf fel cyfansoddwr ac mae’n addysgwr a mentor profiadol. Mae’n diwtor cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers ugain mlynedd, gan addysgu myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ac iau. Mae ei chyfansoddiadau’n amrywio o unawdau offerynnol cynnil i weithiau lleisiol, theatrig a cherddorfaol dramatig ar raddfa fawr. Mae ei chomisiynwyr a’i chydweithwyr yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Glyndebourne, Royal Shakespeare Company, London Mozart Players, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chantorion y BBC.
Mae arbenigedd Lynne ym maes cyfansoddi wedi’i nodiannu, gan gynnwys ysgrifennu offerynnol, lleisiol, ensemble, cerddorfaol, corawl ac operatig.
Enillodd Lynne Plowman Wobr Cyfansoddwr Prydeinig am ei hopera gyntaf, Gwyneth and the Green Knight, a ysgrifennwyd ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol ac fe’i disgrifiwyd yn The Times fel ‘One of the most brilliantly accomplished new operas I have heard in many a year’. Crewyd tair opera arall a ddenodd yr un clod, yn y blynyddoedd dilynol, gan gynnwys comisiynau gan Opera Cenedlaethol Cymru a Glyndebourne.
Gwnaeth Lynne hefyd fwynhau partneriaeth doreithiog gyda’r London Mozart Players. Roedd y comisiynau’n cynnwys gwaith corawl/cerddorfaol ar raddfa fawr i Ddydd y Cofio yn Eglwys Gadeiriol Portsmouth, Cries Like Silence, a sgôr ffilm wreiddiol i’r ffilm fud glasurol The Cabinet of Dr Caligari.
Cefnogwyd Lynne i ddatblygu ei gwaith ysgrifennu cerddorfaol ymhellach gan Ddyfarniad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2012. Mireiniodd a datblygodd ei dulliau gweithio dan fentoriaeth Syr Harrison Birtwistle. Perfformiwyd y gwaith cerddorfaol a ddeilliodd o hyn, Catching Shadows, gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. ‘The result is a thrilling muscularity and sureness of design.’ (Wales Arts Review).
Yn 2020, rhyddhawyd The Beachcomber gan Prima Facie Records – albwm o unawdau a deuawdau clos yn rhychwantu ugain mlynedd o gerddoriaeth Lynne Plowman. Fe’i disgrifiwyd fel ‘highly original and, through sensitive interpretations, immediately appealing and memorable production’ (Remy Franck, cylchgrawn Pizzicato).
Mae gwaith diweddaraf Lynne yn croesi ffiniau rhyngwladol. Gwnaeth y grŵp cerddoriaeth gyfoes o Ffrainc, Ensemble Télémaque, gomisiynu Clarion Call, i berfformwyr yn ardal Marseille yn 2021. Yn fwyaf diweddar, teithiodd Lynne i’r Unol Daleithiau i weithio gyda The Merian Ensemble, aelodau Atlanta Symphony Orchestra, ar gomisiwn newydd, Small World, a berfformiwyd gyntaf yn Atlanta ym mis Mawrth 2022.
Yn ogystal â’i rôl yn CBCDC, Lynne hefyd yw’r cyfansoddwr preswyl ar gynllun arloesol Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed, sy’n annog ac yn cefnogi crefft cyfansoddi cerddoriaeth mewn ysgolion ledled gorllewin Cymru.
Yn 2022, dyfarnwyd Gwobr Joseph Parry i Lynne gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am gyfraniad eithriadol i addysg gerddorol yng Nghymru.
Caiff cerddoriaeth Lynne Plowman ei chyhoeddi gan Wise Music Classical a Composers Edition. Mae’n Gadeirydd Adran Cymru ISCM, yn Seneddwr Academi Ivors ac yn Gymrawd er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.