Connor Fogel
Cyd-destunau Galwedigaethol - Theatr Gerddorol
Rôl y swydd: Tiwtor Clarinét
Adran: Chwythbrennau
Mae Timothy Lines yn mwynhau gyrfa amrywiol fel clarinetydd.
O 1999 i 2003 ef oedd prif glarinetydd y London Symphony Orchestra, a daeth yn gadeirydd y gerddorfa yn ei flwyddyn olaf yno. O 2004 i 2005 roedd yn flaenwr yr adran glarinét yn y City of Birmingham Symphony Orchestra.
Mae’n chwarae’n rheolaidd fel prif glarinetydd gwadd gyda cherddorfeydd fel y BBC Symphony Orchestra, London Philharmonic Orchestra a’r Scottish Chamber Orchestra a chydag ensembles fel y London Sinfonietta a’r Knussen Chamber Ensemble sydd newydd ei ffurfio.
Timothy yw prif glarinetydd presennol yr English Baroque Soloists a’r Orchestre Revolutionaire et Romantique, sy’n perfformio ar offerynnau cyfnod, a’r London Mozart Players.
Mae’n cynnal cyngherddau tymhorol gyda’r New Perspectives Ensemble yn y Coleg Cerdd Brenhinol, gan arbenigo ar berfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr byw. Mae hefyd wedi arwain cerddorfeydd siambr, ffilharmonig a symffoni y Coleg Cerdd Brenhinol.
Mae’n hyfforddwr clarinét ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr ac roedd yn arweinydd cynorthwyol iddynt yn ystod cwrs Gwanwyn 2019.
Yn 2016, penodwyd Timothy yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol.