Fred Harvey Love
Technegydd Adeiladu Golygfaol
Astudiodd Mark David Boden gyda Ken Hesketh yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle y graddiodd gyda Rhagoriaeth o’r cwrs MMus mewn Cyfansoddi Uwch.
Mae ei waith wedi’i gomisiynu gan amrywiaeth eang o ensembles gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y London Philharmonic Orchestra, Hebrides Ensemble, Central Band of the Royal Air Force, Sinfonia Cymru a Camerata Nordica, yn ogystal â chyfres Spectrum yr ABRSM.
Mae gweithiau cerddorfaol niferus wedi’u darlledu ar BBC Radio 3 gan gynnwys Six Degrees, Fuochi Distanti a Ghyll ynghyd â sawl gwaith arall i leisiau gan gynnwys Siegfried Stanzas a Homo Sum.
Gwaith corawl Mark, Awake Glad Heart, a wnaeth agor y darllediad ar Ddydd Nadolig gan y BBC Symphony Chorus ar BBC Radio 3. Perfformiwyd ei gerddoriaeth ledled Ewrop gan gerddorion fel Quatour Tana (Gwlad Belg), Nexus Reed Quintet (y Swistir) a’r fiolinydd Bartosz Woroch (Gwlad Pwyl). Yn ddiweddar, cydweithiodd â’r awdur plant, Catherine Bruton, ar y sioe gerdd POP! a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghaerfaddon.
Derbyniodd Clarinet Concerto gan Mark (a gomisiynwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer y cyn brif glarinetydd Robert Plane) glod y beirniaid yn y perfformiad cyntaf, ac mae recordiad masnachol ar fin cael ei ryddhau. Mae Mark wedi derbyn Cymrodoriaeth John Clementi Collard ddwywaith gan y Worshipful Company of Musicians.
Yn flaenorol, gweithiodd Mark fel tiwtor yn y Conservatoire Iau yn CBCDC cyn cael ei wneud yn Gymrawd Iau mewn Cyfansoddi Ymddiriedolaeth Syr William Walton. Mae’n aelod o staff yn yr adran gyfansoddi ac yn Aelod Cyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn cael ei chyhoeddi gan Chester [Wise Music Group].