Llŷr Williams
Artist mewn Cymdeithas
Rôl y swydd: Tiwtor Bas Trydan / Dwbl Bas
Adran: Jazz
Cerddor hunan-ddysgedig yw Dudley Phillips, sy'n gweithio ym meysydd jazz, 'cerddoriaeth y byd' a chyfansoddi caneuon cyfoes. Yn ddiweddarach enillodd ysgoloriaeth i’r Guildhall School of Music.
Ymhlith yr albymau diddorol hyd yma mae Susheela Raman 'Ghost Gamelan' [rhestr y 10 uchaf o albymau cerddoriaeth y byd The Guardian a Le Monde 2018], Yazz Ahmed 'La Saboteuse' a 'Shoal of Souls', Loreena McKennitt 'Lost Souls' [20 albwm gorau Billboard, 2018] a 'Live at the Albert Hall', Huw Warren 'Everything in Bewteen' a 'A Barrel Organ far from Home...', Orphy Robinson 'When Tomorrow Comes' a 'The Vibes Describes' ar Blue Note International a John Parricelli 'Alba'.
Mae ei albymau unigol yn cynnwys 'Life without Trousers' a 'BASSheARTMANtra' (“Brilliant. Unique” - Robert Wyatt), Amy Winehouse 'Will you still love me tomorrow', Mark Lockheart 'Moving Air' a 'Through Rose Coloured Glasses', Mark Knopfler 'Live in Berlin' (sianel YouTube swyddogol - 27 miliwn o olygon) a 'Live in Zurich' (Sky Arts).
Hefyd, chwe albwm gyda Perfect Houseplants, gan gynnwys 'New Folk Songs' a 'Snap Clatter', pum albwm gyda June Tabor ar Topic/Hannibal Records, gan gynnwys 'Angel Tiger' ac 'Against the Streams', Monica Vasconcelos 'HIH', Charlie Wood 'New Souvenirs', John Harle/Marc Almond 'Tyburn Tree', a Tim Robbins 'Rogues Gallery Band'.
Mae ei deithiau yn cynnwys Bill Withers (dwy daith Ewropeaidd), Billy Cobham (taith yn y DU), Cedar Walton, Tom Scott a John Hendricks (yn fyw yn Ronnie Scott's). Mae wedi teithio'r byd sawl tro ac wedi chwarae yn y rhan fwyaf o’r gwyliau rhyngwladol mawr.
Ymhlith y ffilmiau mae Anja Garbarek (trac sain ar gyfer 'Angela' [Cyfarwyddwr, Luc Besson] gydag Anja Garbarek) a Robert Wyatt (The Robert Wyatt Story).
Roedd yn gyd-enillydd gwobr 'Perfformiad Byw y flwyddyn' Jazz FM yn 2018 gyda grŵp Orphy Robinson.