Ella Hawkins
Uwch-ddarlithydd Ymchwil ac Arloesedd (Drama)
Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth
Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Anrhydeddau: Graddiodd o Academi Celf, y Cyfryngau a Thechnoleg, Utrecht Conservatoire, yr Iseldiroedd (1996) Cymwysterau mewn cyfansoddi electronig / dylunio sain, recordio sain ac addysgu technoleg cerddoriaeth. Cymrawd Advance HE / Academi Addysg Uwch
Ganwyd Odilon Marcenaro yn Amsterdam. Dechreuodd ar ei astudiaethau cerddorol ar y recorder a’r basŵn cyn cychwyn ar gwrs gradd mewn Technoleg Cerddoriaeth yn Academi Celf, y Cyfryngau a Thechnoleg, Utrecht Conservatoire.
Ar ôl cael profiad gwaith yn y stiwdios cerddoriaeth electronig ym Mhrifysgol Amsterdam a’r Sweelinck Conservatoire, derbyniodd swydd ôl-raddedig yn Bretton Hall College, Prifysgol Leeds, lle’r oedd yn gweithio fel ymchwilydd mewn Technoleg Cerddoriaeth ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hefyd yn weithgar fel cyfansoddwr ac arbenigwr ar drylediad sain.
Ym 1996, penodwyd Odilon yn Bennaeth Cerddoriaeth y North Shropshire College yng Nghroesoswallt, lle’r oedd yn addysgu Safon Uwch Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth. Ym 1998, cafodd ei benodi’n Rheolwr Stiwdio i adran ieithoedd BBC World Service Radio yn Bush House, Llundain.
Ymunodd Odilon â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2001 fel darlithydd Technoleg Cerddoriaeth Greadigol. Mae ei arbenigedd yn cynnwys recordio sain, cynhyrchu radio, rhaglennu mewn Max/MSP, hacio electroneg a phob agwedd ar synthesis sain, yn enwedig syntheseiswyr modwlar. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn benodol mewn chwalu agweddau mwy esoterig ar dechnoleg sain.
Bu Odilon yn addysgu a hyfforddi am dros 30 mlynedd. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Bu Odilon yn ymwneud â threfnu gŵyl cerddoriaeth gyfoes Atmospheres ers 2014 ac yn ystod Covid-19, lansiodd Atmospheres Radio a’i redeg, gan ganiatáu i ŵyl rithwir gael ei chynnal ar-lein. Gwnaeth hefyd greu platfform ar-lein i noson jazz fwyaf poblogaidd Caerdydd, AmserJazzTime. Mae’n trefnu cyfres o gyngherddau SoundBar CBCDC, sy’n llwyfan archwiliadol rheolaidd ar gyfer gwaith cerddorol newydd.
Mae gwaith ymchwil Odilon yn cwmpasu cyfansoddi electronig yn ogystal â datrys heriau sy’n codi am fod perfformio’n fwyfwy dibynnol ar dechnoleg. Mae ei addasiadau ar gyfer Dialogue de l’ombre double gan Boulez, sy’n nodi defnyddio offer sydd wedi darfod bellach, wedi creu fersiwn a all gael ei llwyfannu unrhyw le. Ar gyfer National Theatre Wales, creodd ddyfais a fyddai’n trosi curiad calon actor i wybodaeth dempo ar gyfer trac sain y cynhyrchiad. Mae’r rhain ac arloesiadau eraill yn greiddiol i ymarfer Odilon.