Roger Owens
Tiwtor Piano
Rôl y swydd: Tiwtor Cor Anglais
Adran: Chwythbrennau
Patrick Flanaghan yw’r Prif Chwaraewr Cor Anglais gyda’r Royal Philharmonic Orchestra ac mae’n addysgu’r Cor Anglais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Academi Gerdd Frenhinol.
Cafodd ei eni yn Llundain a dechreuodd ar ei addysg gerddorol fel corydd yn Eglwys Gadeiriol Caersallog. Aeth Patrick ymlaen i’r Purcell School of Music lle y gwnaeth astudio gyda Melanie Ragge ac ennill ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Celia Nicklin (Obo) a Geoffrey Brown (Cor Anglais). Tra’r oedd yn yr Academi Frenhinol, enillodd Wobr Obo Leila Bull.
Enillodd Patrick ysgoloriaeth DAAD i astudio gyda’r Athro Emanuel Abbühl yn y Staatliche Hochschule für Musik und Darstellende Kunst Mannheim. Yn ystod ei amser yn yr Almaen, ymddangosodd Patrick yn rheolaidd fel Prif Chwaraewr Cor Anglais gwadd gyda Cherddorfa Symffoni WDR yng Nghwlen, y WDR Funkhausorchester yng Nghwlen ac NDR Elbphilharmonie Orchester yn Hambwrg, ac fel Prif Oböydd gwadd gyda’r Südwestdeutsches Kammerorchester.
Ers dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, bu Patrick yn Brif Chwaraewr Cor Anglais gwadd gyda’r London Philharmonic Orchestra, Philharmonia Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Aurora Orchestra.
Mae ei recordiadau niferus yn cynnwys Unawd Oboe ar The Vivaldi Files gan La Folia, Cor Anglais yn Triple Concerto gan Rob Keeley, ac Unawd Cor Anglais yn Quiet City gan Copland gyda Septura Brass.
Mae Patrick yn Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol.
Mae Patrick wedi rhoi dosbarthiadau Obo a Cor Anglais yn RAM, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, Trinity Laban, Hochschule für Musik Mainz a’r Staatliche Hochschule für Musik und Darstellende Kunst Mannheim.