Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Louise Evans

Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd

Mae Louise Evans yn swyddog gweithredol wedi ymddeol (2018) ac yn gyn aelod o dîm arweinyddiaeth Grant Thornton UK LLP. Bu Louise yn gweithio yno o’r flwyddyn 2000, yn gyntaf fel Partner Treth ac yna fel Partner Rheoli Swyddfeydd Bryste a Chaerdydd o 2006.

Yn 2010 daeth Louise yn un o dri aelod o Fwrdd Rheoli y rhanbarth. Yn 2015 fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o dîm arweinyddiaeth cenedlaethol Grant Thornton, ac roedd yn Arweinydd Uned Busnes ar gyfer rhanbarth y De.

Daeth Louise yn llywodraethwr lleyg ar Fwrdd Prifysgol De Cymru yn 2017, gan ddod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd y Bwrdd yn 2019. Louise yw Dirprwy Gadeirydd ChuW (Cadeiryddion Prifysgolion Cymru).

Mae Louise hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol No Fit State Circus ac yn Gadeirydd (ac Ymddiriedolwr) Aren Cymru. Mae’n gyn-ddyfarnwr hoci rhyngwladol, yn asesydd rhyngwladol dyfarnwyr ac yn gyn aelod o fwrdd Undeb Hoci Cenedlaethol Cymru.

Proffiliau staff eraill