Katy Bircher
Tiwtor Ffliwt Baróc
Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt/Picolo
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: GRSM, ARCM
Ar ôl astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Graham Mayger a Sebastian Bell, ymunodd Liz May â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, lle bu’n is-brif ffliwtydd a phrif chwaraewr picolo am 13 mlynedd tan 2000. Ers hynny, mae wedi mwynhau gyrfa lawrydd lewyrchus yn chwarae picolo, (yn aml fel prif chwaraewr gwadd), ffliwt a ffliwt alto gyda City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Symphony Orchestra a’r English Symphony Orchestra, ymhlith eraill. Mae hefyd wedi chwarae’n rheolaidd gyda’r Birmingham Contemporary Music Group.
Am flwyddyn yn 2018/2019 Liz oedd y Prif Chwaraewr Picolo gwadd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, blwyddyn a oedd yn cynnwys tri phrom a nifer o recordiadau a chyngherddau. Mae hefyd wedi teithio’n rheolaidd gyda’r City of Birmingham Symphony Orchestra, yn aml fel Prif Chwaraewr Picolo gwadd.
Mae addysgu bob amser wedi bod yn rhan hynod werthfawr a phleserus o fywyd gwaith Liz. Mae bellach wedi addysgu ar sawl lefel wahanol ac mewn llawer o sefydliadau ers dros 30 mlynedd, ac ers 2000 bu Liz yn addysgu ffliwt a phicolo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal ag ym Mhrifysgolion Bryste a Chaerdydd. Bu hefyd yn arholi’n gyson yn y Royal Birmingham Conservatoire ac yn ddiweddar gwnaeth lawer o waith asesu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn 2020 roedd Liz yn Bennaeth Dros Dro Chwythbrennau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, swydd y gwnaeth ei mwynhau’n fawr, ac mae wrth ei bodd yn parhau i addysgu a hyfforddi yn yr adran.