Gerard McChrystal
Tiwtor Sacsoffon
Mae Dominic yn llais sydd wedi hen ennill ei blwyf ym myd jazz yn y DU. Mae wedi teithio’n eang ar draws y DU gyda’i bumawd, gan berfformio mewn lleoliadau a gwyliau enwog fel Ronnie Scott’s, Love Supreme, Royal Albert Hall, a Gŵyl Jazz Llundain EFG. Cafodd Role Models, yr albwm cyntaf iddo ryddhau ei hun, ei ganmol i’r cymylau. Mae’n cynnwys cyfres o ddarnau crefftus llawn cymeriad sy’n arddangos arddull nodweddiadol Dominic, gan adlewyrchu ei arddull bersonol sydd wedi’i gwreiddio yn ei gefndir mewn cerddoriaeth werin a chlasurol.
Mae Dominic wedi cydweithio â cherddorion rhyngwladol o fri, fel Trish Clowes, Emma Rawicz a Camila Meza. Mae hefyd yn aelod o’r band Bonsai, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac wedi perfformio gyda hwy mewn rhai o’r prif wyliau a lleoliadau jazz ar hyd a lled y DU ac Ewrop. Yn 2020, cafodd ei enwebu am Wobr Jazz Seneddol ar gyfer yr Artist Jazz Newydd Gorau, a chyrhaeddodd rownd derfynol yr Gystadleuaeth Ryngwladol enwog Zbigniew Seifert ar gyfer Ffidil Jazz. Ar hyn o bryd, mae Dominic yn dal swydd Tiwtor Ffidil Jazz/Byrfyfyrio yn Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion.