Jesse Musker
Undeb y Myfyrwyr Is-lywydd – Drama
‘Un o’r cantorion mwyaf creadigol yn sîn jazz y DU’ BBC Radio 3
‘Gallu jazz digymell, o’r radd flaenaf’ The Guardian
Mae Brigitte Beraha, cantores fyrfyfyr a chyfansoddwraig, yn un o’r doniau mwyaf blaenllaw’r sîn jazz yn y DU. Gan gofleidio amrywiaeth eang o ddylanwadau a genres, mae sain Beraha yn rhydd ac yn ddigymell gyda phwyslais ar archwilio, mynegi a phrofi’n ddi-ofn derfynau’r llais fel offeryn. Ochr yn ochr â jazz cyfoes gwreiddiol a’r repertoires jazz a Lladin craidd, mae’n ymwneud fwyfwy â phrosiectau traws-genre cyffrous, megis ail-greu cerddoriaeth Basil Kirchin fel rhan o Ddinas Diwylliant Hull 2017 neu Raising Hell gyda Henry Purcell dan arweiniad Ethan Iverson yn Kings Place yn 2018.
Mae Beraha wedi recordio nifer o albymau sydd wedi cael canmoliaeth y beirniaid, fel blaenwr ac fel rhan o brosiectau cydweithredol megis Babelfish, Solstice a Red Skies Trio. Ers 2020 mae wedi rhyddhau tri albwm o dan ei henw: ei halbwm unigol cyntaf ‘By the Cobbled Path’ a dau albwm gyda’i phedwarawd newydd ‘Lucid Dreamers’ a’r diweddaraf ‘Blink’. Mae’r rhain yn mynd â’i harchwiliadau sonig ymhellach trwy electroneg a dulliau eraill, gan gyflwyno dimensiwn newydd i’w gwaith a phrofi unwaith eto’r ystwythder, yr ysbryd anturus a’r dychymyg diddiwedd sydd wedi’i gwneud yn artist gwirioneddol gyffrous ac amryddawn gydag ystod enfawr o brofiad a chwmpas creadigol. Enwebwyd Brigitte am wobr ‘Lleisydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Jazz FM 2022, Gwobrau Jazz Seneddol 2021 a 2022 ac ar gyfer Gwobrau Cyfansoddwr Ivors 2021.