Emma Lewis
Tiwtor Symyd
Rôl y swydd: Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
Adran: Pres
Anrhydeddau: BMus, MA, DMus (Er Anrhydedd), FRWCMD, MBE
Penodwyd Tim Rhys-Evans yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020. Mae galw mawr am ei waith fel arweinydd corawl, trefnydd, cyfansoddwr a chyflwynydd teledu.
Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio fel canwr opera proffesiynol, sylweddolodd Tim mai ei angerdd go iawn yw creu a hwyluso cerddoriaeth gan arbenigo mewn cerddoriaeth gorawl, opera a theatr gerddorol. Mae’n frwdfrydig iawn ynglŷn â chreu cyfleoedd cerddorol llawr gwlad i bawb; gan sicrhau bod gan bawb sydd â thalent, disgyblaeth ac ymroddiad fynediad at lwybrau i astudio cerddoriaeth a pherfformio ar lefel uwch.
Mae Tim yn credu’n angerddol yng ngrym trawsffurfiol cerddoriaeth ac y dylai pawb gael y cyfle i ymwneud â’r celfyddydau. I’r diben hwn, yn 2010 sefydlodd Elusen Aloud sy’n cynnal corau Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud. Dau brif nod y mentrau hyn yw adfywio traddodiad corau meibion Cymru a chreu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc o ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, ac maent wedi gwella bywydau miloedd o blant o rai o gymunedau tlotaf Cymru.
Ar ôl gweithio’n helaeth ym myd opera a theatr gerddorol, ffurfiodd grŵp Only Men Aloud, ensemble o leisiau dynion Gymru, ac mae eu huchafbwyntiau’n cynnwys ennill Last Choir
Standing y BBC, ennill Albwm y Flwyddyn yng ngwobrau Classical Brit, canu yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 a recordio a pherfformio’n rhyngwladol.
Mae sgiliau Tim fel cyfansoddwr a threfnydd yn golygu bod ei waith yn cael ei berfformio’n rheolaidd ym mhob rhan o’r byd. Yn flaenorol roedd ganddo gytundeb â Sony ATV ac yn ddiweddar cafodd gytundeb cyhoeddi â Warner Chappell.
Mae gwaith Tim yn golygu ei fod wedi’i anrhydeddu gan sawl sefydliad gan gynnwys ei urddo i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010 a’i benodi yn MBE gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2013, a derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol De Cymru yn 2017 a Chymrodoriaeth er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2019.
Mae Tim yn eiriolwr brwd dros faterion iechyd meddwl, ac enillodd wobr BAFTA Cymru am y rhaglen ddogfen a wnaeth am ei argyfwng iechyd meddwl ei hun, ‘Tim Rhys-Evans – All in the Mind’, wedi iddi gael ei darlledu ar y rhwydwaith ar BBC One.