Patrick Rimes
Feiolin (gwerin a thraddodiadol)
Ganwyd Yuri ym Mosgo ac astudiodd yn y Central School of Music a’r Moscow Tchaikovsky Conservatoire, gan raddio â gradd Meistr ym 1995.
O 1991 hyd 1992, chwaraeodd Yuri gyda’r enwog Opera Bolshoi, ac o 1992 i 2004 roedd yn Brif Chwaraewr Bas gydag un o gerddorfeydd siambr mwyaf nodedig y byd: The Moscow Soloists, dan gyfarwyddyd Yuri Bashmet, gan berfformio gyda Mario Brunello, Sarah Chang, James Galway, Gidon Kremer, Shlomo Mintz, Sviatoslav Richter, Mstislav Rostropovich, Thomas Quasthoff, Uto Ughi, Maxim Vengerov a llawer mwy mewn amrywiaeth eang o leoliadau a gwyliau pwysig gan gynnwys Carnegie Hall, Suntory Hall, Barbican, Berlin Philharmonie a’r Sydney Opera House.
Yn y 1990au, ymddiddorodd Yuri yn fawr mewn jazz, a dechreuodd berfformio mewn clybiau a gwyliau jazz. Yn sgil y diddordeb hwn, cefnodd ar ei yrfa glasurol, gan symud i Milan yn 2004 i ymroi ei hun yn llwyr i jazz.
Fel artist jazz, mae Yuri wedi cydweithio â Bob James, Till Brönner, Wolfgang Muthspiel, Kenny Werner, Enrico Pieranunzi, Ralph Towner, Gwilym Simcock, Paolo Fresu, Tim Garland a llawer mwy, gan ymddangos mewn nifer o wyliau blaenllaw (Umbria Jazz, Montreux, JazzAhead, North Sea Jazz ac eraill).
Mae ei chwarae wedi’i ddogfennu mewn mwy na 100 o albymau.
Mae Yuri yn addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2015.
Mae Yuri yn berfformiwr, artist recordio a chyfansoddwr ar gyfer Cerddoriaeth Jazz, Glasurol a Siambr.
Mae wedi cynhyrchu fideos ar dechnegau chwarae’r dwbl bas a gosodiad y dwbl bas.
Enillodd Yuri y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Myfyrwyr yr Undeb Sofietaidd Gyfan (1990) a derbyniodd ysgoloriaeth New Names (1997, 1998). Ef oedd y chwaraewr dwbl bas ieuengaf erioed i dderbyn y teitl Artist Anrhydeddus Rwsia (2002).
Mae Yuri wedi cyhoeddi trawsgrifiadau a gweithiau gwreiddiol i’r bas yn Rwsia, yr Almaen ac UDA.
Recordiodd ar gyfer amrywiaeth eang o labeli blaenllaw ac adnabyddus fel SONY, EMI, Universal, ACT, Edition, Basho, Abeat, Traumton ac eraill. Cafodd albwm diweddaraf Goloubev, Two Chevrons Apart (Basho Records) ei enwebu fel un o’r goreuon i gael eu rhyddhau yn 2020 gan gylchgrawn adnabyddus Downbeat (UDA).