Jonathan Rees
Tiwtor Soddgrwth Baróc
Rôl y swydd: Tiwtor Tiwba
Adran: Pres
Anrhydeddau: Bmus Anrh 1:1 (Yr Academi Gerdd Frenhinol) | Aelod er Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol
Ganwyd Daniel Trodden yng Nghaerdydd ym 1983 a dechreuodd chwarae’r tiwba yn 11 oed, gan gael gwersi gyda Matthew Thistlewood a chwarae gyda llawer o ensemblau ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Caerdydd. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol o dan ofal Patrick Harrild, ac ar ôl graddio yn 2006 dechreuodd ar yrfa lawrydd amrywiol yn chwarae gyda cherddorfeydd symffoni, opera a bale pennaf y Deyrnas Unedig, yn ogystal â gweithio gydag artistiaid fel Paul Weller, These New Puritans a The Who.
Bu Daniel yn Brif Chwaraewr Tiwba Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers 2011 ac mae’n parhau i fwynhau amserlen lawrydd brysur ledled y DU, gan weithio gyda’r London Symphony Orchestra, Orchestra of The Royal Opera House, City of Birmingham Symphony Orchestra a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag mewn sesiynau recordio ffilm a gemau fideo yn Stiwdios Ayre ac Abbey Road.
Bu’n aelod o’r Gyfadran Bres yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2014, ac mae hefyd yn athro gwadd yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.