Mike Robinson
Arweinydd Cwrs Sylfaen Adeiladu Golygfeydd
Rôl y swydd: Tiwtor Basŵn
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: ARCM
Astudiodd Christopher Vale yn y Coleg Cerdd Brenhinol o dan Kerry Camden, lle enillodd Wobr Basŵn Arthur Somerville.
Cyn ymuno â cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru fel is-brif faswnydd a phrif faswnydd bas, bu’n gweithio’n llawrydd yn Llundain. Bu'n brif faswnydd gyda New Sadler's Wells Opera and Ballet a bu'n gweithio i Gwmnïau Ballet Ciwba, Awstralia a Houston. Mae ei waith ar y basŵn bas wedi cynnwys cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Cymru o Wozzeck, Ring Wagner, Salome ac Elektra. Fel chwaraewr gwadd, mae wedi gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Bournemouth Symphony Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Orchestra of St Johns Smith Square, ac yn ddiweddar bu’n gweithio ar gerddoriaeth ffilm S4C a BBC Radio Four ar y basŵn a’r basŵn bas.
Ar ôl deng mlynedd ar hugain yn Opera Cenedlaethol Cymru mae newydd ddychwelyd i chwarae ar ei liwt ei hun yn ogystal â gweithio ar brosiectau addysg ac fel trefnydd. Ef yw cadeirydd bwrdd Ensemble Cambrica.
Bu’n ymwneud ag opera ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru fel hyfforddwr ac arweinydd, gan berfformio The Mikado, Sweeney Todd a Kommilitonen gan Peter Maxwell-Davies.
Mae Christopher hefyd wedi helpu i gychwyn y gerddorfa hyfforddi yng Nghonservatoire Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle y bu hefyd yn Bennaeth Dros Dro.