Alan Watson
Tiwtor Seicoleg Perfformio ac Osgoi Anafiadau
Ganwyd Gerard McChrystal yn Derry, Gogledd Iwerddon. Ef oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o’r Royal Northern College of Music â thri dyfarniad yn 1987. Gwnaeth ei astudiaethau ôl-raddedig yn y Guildhall School, Llundain. Y flwyddyn honno, cyrhaeddodd rownd derfynol yr RTE Young Musician of the Year am yr eildro a’r Royal Overseas League, Llundain. Enillodd wobr gerddoriaeth Lombard & Ulster a gwobr The Countess of Music. Enillodd Gerard ysgoloriaeth i astudio yn Northwestern University, Chicago, gyda Fred Hemke a dyfarnwyd radd Meistr iddo ym 1988.
Chwaraeodd am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig gyda’r Philharmonia, yn y perfformiad cyntaf erioed o Out of the Cool gan Dave Heath ym 1989 yn St John Smith’s Square.
Mae Gerard wedi perfformio mewn mwy na 35 o wledydd gan gynnwys Tsieina, UDA, Seland Newydd, Korea, De Affrica ac Azerbaijan. Mae wedi cydweithio â’r cyfansoddwr Philip Glass, The Soweto String Quartet, Rambert Dance Co. a London Musici. Fel rhan o Bros Saxophone Quartet, mae wedi recordio a pherfformio cerddoriaeth gan Salvatore Sciarrino ym Milan. Rhyddhawyd Pagine gan Sciarrino ar Stradivarius Records yn 2016.
Roedd Gerard yn llysgennad i Ddinas Diwylliant y DU 2013 Derry-Londonderry a pherfformiodd yn y cyngherddau agoriadol a chlo gydag artistiaid yn cynnwys Snow Patrol, The Undertones a James Nesbitt.
Mae Gerard wedi gwneud 15 o CDs gyda cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ulster Orchestra a London Musici. Mae’n Artist Vandoren. Ym mis Ebrill 2020, rhyddhawyd ei CD diweddaraf gyda’r organydd Christian Wilson. Recordiwyd y CD yn y Capel Brenhinol yn Nhŵr Llundain