Timothy Amherst
Tiwtor Bas Dwbl a Violone
Rôl y swydd: Technegydd Piano
Adran: Piano
Gavin yw prif dechnegydd piano y Coleg, sy’n gyfrifol am diwnio a chynnal a chadw’r fflyd o bianos Steinway, yn ogystal â thiwnio’r fortepianos yn rheolaidd. Mae’r Coleg yn un Steinway yn Unig, ac mae Gavin wedi’i gymeradwyo gan Steinway i sicrhau bod offerynnau’r Coleg yn cael y gofal gorau posibl.
Bu Gavin hefyd yn addysgu tiwnio ac adnewyddu pianos am gyfnod byr ar gwrs Newark, ac yn dilyn ymlaen o’r profiad hwn mae wedi bod yn cyflwyno dosbarthiadau rhagarweiniol yn y pwnc unwaith y flwyddyn i fyfyrwyr piano yn CBCDC, er mwyn helpu’r myfyrwyr i ddeall eu hoff offeryn yn well.
Hyfforddodd Gavin i ddechrau mewn tiwnio piano ar gwrs 3 blynedd Musical Instrument Technology Newark, a threuliodd ddeng mlynedd arall yn gweithio fel tiwniwr, adnewyddwr ac ail-adeiladwr pianos yn Swydd Nottingham, cyn symud i Gaerdydd.