Alan Swain
Tiwtor Trombôn Bas
Rôl y swydd: Tiwtor Fiola
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: PGDip GSMD Concert Recital Diploma (Premier Prix)
Ganed Dorothea Vogel yn y Swistir ac astudiodd gyda Rudolf Weber yn Winterthur.
Tra'n brif fiolydd yng Ngherddorfa Ieuenctid Gustav Mahler datblygodd hoffter o deithio a derbyniodd ysgoloriaethau i astudio gyda Paul Coletti yn y Peabody Institute, UDA, ac wedyn gyda David Takeno a Micaela Comberti (fiola baróc) yn y Guildhall School yn Llundain, lle graddiodd â Diploma Datganiad Cyngerdd uchel ei fri.
Mae cerddoriaeth siambr wastad wedi bod yn rhan fawr o fywyd Dorothea. Yn un ar bymtheg oed sefydlodd ei phedwarawd llinynnol cyntaf. Pan ymgartrefodd yn Lloegr, gadawodd y pedwarawd hwnnw a gweithiodd fel fiolydd llawrydd yn y rhan fwyaf o gerddorfeydd Llundain (London Symphony Orchestra, Philharmonia, London Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, BBC) yn ogystal â dilyn gyrfa brysur fel y prif fiolydd yn Kings Consort ac mewn ensembles baróc eraill. Un o'r uchafbwyntiau oedd ymddangos fel yr unawdydd yn Concerti Viola d’Amore gan Vivaldi yn Wigmore Hall.
Ymunodd wedyn â’r Allegri Quartet, a bu’n brysur yn chwarae mewn cyngherddau ledled y wlad a thramor.
Mae cerddoriaeth siambr a llinynnau perfedd ymhlith ei diddordebau arbennig. Hi hefyd yw fiolydd y Narratio Quartet yn yr Iseldiroedd, a ffurfiwyd er mwyn perfformio holl bedwarawdau Beethoven ar linynnau perfedd, a recordiodd ei Primrose Piano Quartet holl bedwarawdau piano Brahms gan ddefnyddio tri phiano gwahanol o'r cyfnod yn Fienna ar ôl cynnal ymchwil ar Berfformio gan ddefnyddio Gwybodaeth Hanesyddol mewn seminar yn y Birmingham Conservatoire.