Phil Girling
Hyfforddiant Siambr (Offerynnau Taro)
Rôl y swydd: Feiolin (gwerin a thraddodiadol)
Adran: Llinynnau
Cerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd yw Patrick Rimes. Wedi’i eni a’i fagu yng nghadarnleoedd cerddoriaeth draddodiadol ffyniannus Eryri, aeth ymlaen i astudio’r feiolin a’r fiola clasurol ym Mhrifysgol Leeds, Janáčkovo Akademie Muzických yn Brno, Gweriniaeth Tsiec a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn 2014 cydsefydlodd Camerata Gogledd Cymru, cerddorfa siambr arbennig i gerddorion neo-broffesiynol sy’n hyrwyddo repertoire cyfoes, ac mae’n dal yn arweinydd preswyl arni.
Mae galw mawr am ei wasanaeth fel cyfansoddwr/trefnydd, ac mae ei uchafbwyntiau diweddar wedi cynnwys gweithiau a berfformiwyd gan yr Orchester Symphonique de Bretagne, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a West Virginia Symphony. Mae ei gyfansoddiadau wedi cael eu chwarae ar Radio 2, 3 a 4, ac yn 2016 enillodd BAFTA am raglen deledu gyda’i gydweithiwr rheolaidd Bryn Terfel.
Mae’n addysgwr angerddol ym maes cerddoriaeth draddodiadol – ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr artistig AVANC, Band Gwerin Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac ers 2021 mae wedi bod yn ymgorffori cerddoriaeth draddodiadol yng ngwaith Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Fel un o sylfaenwyr Calan a VRï, mae wedi teithio’n helaeth yn y DU, Ewrop a Gogledd America, wedi rhyddhau sawl albwm stiwdio clodwiw a derbyniodd 4 gwobr yng Ngwobrau Gwerin Cymru yn 2019. Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Sinfonia Dinas Llundain mewn lleoliadau sy’n cynnwys Neuadd Frenhinol Albert, Sage Gateshead a Neuadd Dewi Sant.
www.vri.cymru
www.calan-band.com