Andrea Jones
Pennaeth Rhaglenni Israddedig (Cerddoriaeth)
Rôl y swydd: Tiwtor Tiwba
Adran: Pres
Anrhydeddau: ARCM, ARNCM
Astudiodd Nigel Seaman y tiwba yn y Royal Manchester College of Music a’r Royal Northern College of Music ac ymunodd â cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru ym 1975 cyn symud i Gadair y Prif Chwaraewr Tiwba yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ddwy flynedd yn ddiweddarach. Yn dilyn 33 mlynedd o wasanaeth ymddeolodd o'r gerddorfa yn 2010. Mae Nigel yn aelod o staff addysgu rhan-amser Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 1977 ac mae gwelodd drosto’i hun y cynnydd rhyfeddol a wnaed ar y campws yn y blynyddoedd ers hynny.
Yn ystod ei yrfa mae hefyd wedi datblygu enw da fel arweinydd, hyfforddwr a beirniad bandiau pres, gan weithio'n aml gyda grwpiau lleol yn ogystal â theithio ledled y DU, Ewrop, y Dwyrain Pell ac Awstralasia. Yn 2018 arweiniodd fand Wellington (Seland Newydd) i fuddugoliaeth ym mhencampwriaethau Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd yn falch iawn o fod yn Gynghorydd Cerddorol i Fand Cory, Band Preswyl CBCDC.