Laura Martin
Darlithydd Celf Golygfeydd
Rôl y swydd: Pennaeth Theatr Gerddorol
Adran: Theatr Gerddorol
Anrhydeddau: MA, BA(Anrh)
Derbyniodd Vivien Care hyfforddiant mewn astudiaethau llais fel myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Arbenigodd mewn Theatr Gerddorol yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan raddio yn 2000 gyda Rhagoriaeth, LRAM, a Gwobr Mary Hammond.
Mae gyrfa berfformio Vivien yn cynnwys theatr gerddorol y West End, graddfa fach ac ymylol, teithio yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, recordio yn y stiwdio gyda Capital Voices a Metro Voices, ymddangosiadau ar y teledu, cyngherddau, a radio. Bu’n rhan o sawl prosiect ymchwil a datblygu ar gyfer gwaith gwreiddiol gan gynnwys Marguérite ar gyfer Boublil a Schoenberg, gan arwain at ddiddordeb penodol mewn gwaith newydd i theatr gerddorol.
Mae ei huchafbwyntiau fel perfformiwr yn cynnws D’Oyly Carte Opera Company, The Sound of Music yn y London Palladium, a sawl tymor yn yr Open Air Theatre yn Regent’s Park gan gynnwys HMS Pinafore, The Boyfriend a High Society. Mae ei hymddangosiadau yn Les Misérables yn cynnwys Palace Theatre a Queen’s Theatre, cynhyrchiad yr International Scandinavian, y 25th Anniversary Concert of Les Misérables yn yr O2 Arena, a pherfformiad preifat yng Nghastell Windsor drwy wahoddiad Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Sefydlodd Vivien y rhaglen MA Theatr Gerddorol yn CBCDC, y cyntaf o’i bath yng Nghymru; ac yn 2020 ysgrifennodd y rhaglen israddedig BA (Anrh) Theatr Gerddorol. Mae ganddi angerdd ynghylch hyfforddiant cynhwysfawr i’r diwydiant theatr gerddorol cyfoes, a bu’n Arholwr Allanol i nifer o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig ac yn Gynullydd adolygiadau rhaglenni yn y Royal Conservatoire of Scotland.
Yn 2020, dyfarnwyd ARAM i Vivien, gan ei phenodi’n Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol.