Ceri Tippets
Tiwtor Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Rôl y swydd: Tiwtor Clarinét / Clarinét Bas
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: BMus (Anrh), PPRNCM, DKA
Astudiodd Alison Lambert yn y Royal Northern College of Music cyn ennill ysgoloriaeth i astudio gyda'r Athro Wolfgang Meyer yn y Staatliche Hochschule für Musik yn Karlsruhe, yr Almaen. Aeth ymlaen i fod yn Brif Glarinetydd Bas yng Ngherddorfa Symffoni Jerwsalem, Israel, gan ddarlledu'n fyw yn rheolaidd ar deledu a radio Israel.
Ar hyn o bryd, Alison yw Prif Glarinetydd yr English Symphony Orchestra a Longborough Festival Opera ac mae'n perfformio'n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac fel clarinetydd i'r Royal Shakespeare Company. Yn sgil ei hangerdd cryf am gerddoriaeth siambr, mae wedi perfformio deuawdau a siambr mewn gwyliau a lleoliadau ledled y DU ac Ewrop. Mae Alison wedi perfformio fel unawdydd gyda Cherddorfa'r Hallé, Cerddorfa Hillel Jerwsalem, Cerddorfa Ffilharmonig Baden-Baden a Collegium Musicum, Heidelberg. Mae ei darllediadau radio yn cynnwys darllediad byw BBC Proms o Clarinet Quintet Magnus Lindberg yn ogystal ag ymddangosiadau cerddorfaol yn y BBC Proms.