Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jonathan Burnett

Rôl y swydd: Violin Tutor

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr

Enillodd Jonathan radd BA mewn perfformio ar y feiolin o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar ôl cwblhau ei radd gyntaf, derbyniodd ddwy ysgoloriaeth fawr i ddatblygu ei astudiaethau o dan arweiniad yr Athro Dona Lee Croft.

Mae Jonathan wedi chwarae gyda rhai o gerddorfeydd mwyaf nodedig y DU, gan gynnwys BBC NOW, International Musical Orchestra a’r London Soloists. Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac wedi perfformio gyda nifer o ensembles siambr, gan gydweithio â chyfansoddwyr o fri megis Michael Nyman, Graham Fitkin ac Alun Hoddinott.

Yn arweinydd medrus, mae Jonathan wedi arwain nifer o ensembles a Cherddorfa Symffoni Ieuenctid Berkshire. O dan ei gyfarwyddyd mae’r gerddorfa wedi ennill gwobr gydnabyddiaeth gan NMFY ac wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog megis Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd Symffoni Birmingham ac amryw o leoliadau eraill ledled Ewrop. Yn 2016, aeth â’r gerddorfa ar daith lwyddiannus i Beijing, Tianjin a Shanghai.

Mae gyrfa Jonathan wedi cynnwys rolau addysgu ac arholi mewn sawl ysgol annibynnol amlwg, gan gynnwys Coleg Eton, ac mewn conservatoires sy’n cynnwys CBCDC, RBS a Trinity Laban.

Yn ddiweddar penodwyd Jonathan i fwrdd ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Dorothy Croft, sy’n helpu i gefnogi myfyrwyr dawnus mewn angen ariannol i gael mynediad at wersi, dosbarthiadau meistr a chlyweliadau.

Proffiliau staff eraill