Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Antigone (Tiggy) Blackwell

Rôl y swydd: Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Haia, Antigone Blackwell ydw i, ond mae pawb yn fy ngalw i’n Tiggy.

Rwy’n cynrychioli myfyrwyr ac yn cynnig cefnogaeth fel rhan o dîm Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n rheoli tîm yr Undeb, yn mynd i gyfarfodydd a chynadleddau, ac yn cynrychioli corff y myfyrwyr mewn cyfarfodydd staff. Rydw i hefyd yn arwain Pwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr ac rwy’n gyfrifol am drefnu gweithgareddau cymdeithasol yr Undeb.

Yn fy ngyrfa gerddorol, rwy’n Drombonydd Jazz a fi oedd enillydd cyntaf Gwobr Jazz Anjool Malde. Graddiais ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o’r cwrs BMus (Jazz) yn CBCDC ym mis Gorffennaf 2024.

Fel chwaraewr trombôn jazz proffesiynol yn sîn gerddoriaeth y DU, rwy’n chwarae arddulliau amrywiol ar gyfer digwyddiadau o bob math, gan gynnwys gwyliau, priodasau, achlysuron arbennig, a chlybiau jazz. Rydw i wedi cael y pleser o chwarae gyda llawer o fandiau ac artistiaid llwyddiannus, gan gynnwys YolanDa Brown, Afro Cluster, Cerddorfa Jazz y Brifddinas, a The Navarones. Rydw i hefyd wedi recordio albwm a theithio drwy Gymru a Lloegr gyda’r band jazz wyth offeryn, The Mingus Project.

Antigone.Blackwell2020@rwcmd.ac.uk

Proffiliau staff eraill