Deborah Light
Tiwtor Symyd
Yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol chwaraeodd Tom gornet unawd gyda Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr gan gynnwys dau gwrs fel Blaenwr. Arweinydd Cyswllt y Band, Dr Nicholas Childs, a sylwodd ar ei ddawn ac yn ddiweddarach gwahoddodd ef i ymuno â’r byd-enwog Black Dyke Band. Yn ystod ei gyfnod o bedair blynedd gyda’r 'Dyke' bu hefyd yn teithio'n helaeth ledled Ewrop ac Awstralia. Ar ôl graddio o’r Royal Northern College of Music lle bu’n astudio o dan Richard Marshall, gwahoddwyd Tom i ymuno â band rhyfeddol Cory fel prif gornetydd. Ar ôl blaenu’r band yn ei flwyddyn gyntaf i ennill tri theitl Ewropeaidd yn 2010, mae wedi blaenu Cory i bedwar teitl Cystadleuaeth Agored Prydain, chwe theitl rhanbarthol yng Nghymru, chwe gwobr gyntaf Brass in Concert Championship, tri theitl Ewropeaidd arall, a phedwar gwobr gyntaf mewn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol.
Rhai yn unig o blith ei uchafbwyntiau yn Cory hyd yma yw derbyn gwobr chwaraewr y flwyddyn y band ar dri achlysur, rhyddhau ei CDs unigol ‘In Principal’ a ‘This Way’, a blaenu Cory i Gamp Lawn hanesyddol yn 2016 a 2019. Fel artist Besson mae Tom yn cynrychioli’r Buffet Crampon Group ledled y byd a thros y blynyddoedd diwethaf mae wedi perfformio fel unawdydd yn Awstralia, Seland Newydd, Japan, Canada ac UDA.