Llŷr Williams
Artist mewn Cymdeithas
Rôl y swydd: Tiwtor Piano
Adran: Piano
A hithau’n dod yn wreiddiol o Malaysia, Mae Mei Yi yn byw yn y Deyrnas Unedig ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gyda Yonty Solomon, Chris Elton ac Alexander Satz.
Enillodd Wobr Dyfodiad Newydd BBC Music Magazine 2013, ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol fel pianydd arloesol sydd â repertoire amrywiol ac eclectig. Mae Mei Yi yn unawdydd cyngerdd toreithiog sydd wedi ymddangos gyda’r English Chamber Orchestra, Fort Worth Symphony, Cerddorfa Ffilharmonig Helsinki, Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ, London Chamber Orchestra, Cerddorfa Ffilharmonig Malaysia, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Taiwan, Philharmonia Orchestra, Remix Ensemble a Cherddorfa Ffilharmonig Seoul, gan gael adolygiadau gwych gan The Times, Independent, Neue Zuercher Zeitung, darllediad SRF, Guardian a chylchgrawn Klassik.
Fel un sy’n frwd dros gerddoriaeth newydd, mae Mei Yi yn cydweithio’n helaeth â chyfansoddwyr byw ac yn perfformio yn rhai o wyliau pennaf y byd gan gynnwys Gŵyl Lucerne, Gŵyl Ultraschall Berlin, Huddersfield Festival a Gŵyl Punkt yn Norwy. Hi hefyd oedd yr artist dan sylw yng nghyfres ‘Music of Today’ y Southbank Centre yn 2017.
Mae’n addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Derbyniodd Mei Yi fedal Setiawan Tuanku Muhriz am ei chyfraniad i’r celfyddydau a cherddoriaeth yn ei gwlad enedigol.