Matthew Featherstone
Tiwtor Ffliwt
Rôl y swydd: Tiwtor Piano
Adran: Piano
Anrhydeddau: BA, MMus, ARCM
Astudiodd Michael Young y piano a chyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle enillydd ddwy wobr. Roedd hefyd yn rownd derfynol y Gystadleuaeth Piano Genedlaethol
Mae wedi perfformio'n rheolaidd fel unawdydd datganiadau a concerto yn Ewrop, UDA a De Ddwyrain Asia, gan roi nifer o berfformiadau a darllediadau cyntaf o weithiau cyfoes, yn ogystal â gwneud astudiaeth arbennig o waith Korngold. Mae'n gerddor siambr a chyfeilydd gweithgar, yn fwyaf diweddar gyda Georgia Vale (fiolín).
Mae Michael wedi bod yn weithgar fel athro piano ers bron i 50 mlynedd ac mae wedi cynnal dosbarthiadau meistr a darlithoedd ar addysgeg piano ledled y byd. Mae llawer o'i gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddo’n rhyngwladol a dilyn gyrfaoedd fel perfformwyr. Roedd Michael yn Bennaeth Allweddellau yn Wells Cathedral School rhwng 1980 a 2000, lle datblygodd adran ag iddi enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth. Ac yntau’n gyn-athro piano yn yr Academi Gerdd Frenhinol, mae'n addysgu'r piano yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers dros 20 mlynedd ac mae'n arholwr, beirniad a chyflwynydd ar gyfer yr ABRSM ac i’r British & International Federation of Festivals.