Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Shiry Rashkovsky

Rôl y swydd: Tiwtor Fiola

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr

Canmolwyd Shiry gan The Strad am ei hymddangosiad cyntaf ‘gwych a gwefreiddiol’ yn y Neuadd Ŵyl Frenhinol, ac mae ganddi yrfa ryngwladol ac amrywiol.

Mae galw mawr am Shiry fel cerddor siambr ac mae’n cael ei gwahodd i wyliau rhyngwladol gan gynnwys Prussia Cove Open Chamber Music, lle mae hi wedi perfformio gydag Adrian Brendel, Ian Brown, Thomas Gould, Viviane Hagner, a David Waterman, ymhlith eraill. Mae hi wedi darlledu’n fyw mewn ensemble gyda Shmuel Ashkenasi, Atar Arad, Stephan Barratt-Due, Vadim Gluzman, Rudolf Koelman a Shlomo Mintz; wedi perfformio gyda Phedwarawd Sacconi; ac wedi ymddangos yng nghyfres ‘Rising Stars’ Neuadd Cadogan. Mae hi'n un o sylfaenwyr Trio Klein, a oedd yn Artistiaid Preswyl ym Mhrifysgol Surrey yn 2023/2024. Byddant yn rhyddhau eu EP cyntaf yn 2025.

Arbenigedd

A hithau wedi ymroi i arloesi yn y maes rhaglennu, Shiry yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig gŵyl Up Close and Musical. Yn ei blwyddyn gyntaf, sef 2021, roedd yr ŵyl yn cynnwys rhai o'r enwau mwyaf yn y meysydd clasurol, jazz ac electronica.

Yn ddiweddar, mae Shiry wedi comisiynu: deuawd i’r fiola a llais a gafodd ei chyfansoddi a’i recordio gyda Héloïse Werner; rhaglen geiriau-a-cherddoriaeth gan Jessica Duchen yn dathlu'r cyfeillgarwch traws-ddiwylliannol rhwng Ralph Vaughan Williams a'r feiolydd Iddewig Lionel Tertis, a berfformiwyd yn ddiweddar yng Ngŵyl y Tri Chôr ac a gafodd sylw yn The Strad ac ar Scala Radio; a phumawd fiola gan Errollyn Wallen, a berfformiwyd am y tro cyntaf gyda Phedwarawd Solem.

Mae Shiry yn addysgegydd brwd ac mae’n falch iawn o fod yn ymuno â’r Gyfadran Linynnol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2024/2025. Mae hi wedi bod yn addysgu’r  fiola yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain ers 2013 ac wedi rhoi dosbarthiadau meistr i gerddorion ifanc dawnus ac uchelgeisiol ym mhedwar ban byd. Astudiodd y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt, a chafodd ei MMus a’r diploma ArtDip yn y Coleg Cerdd Brenhinol, gan astudio gyda Natasha Boyarska ac Ian Jewel.

Proffiliau staff eraill