James Mildred
Tiwtor Corn Ffrengig
Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd
Aled yw Llywydd a Phrif Weithredwr Sauce Labs, a llysgennad Llywodraeth Cymru i’r Unol Daleithiau.
Yn 2016 ymunodd â chwmni technoleg byd-eang TeleSign Corporation fel Prif Swyddog Gweithredol ac aelod bwrdd, gan arwain newid strategaeth a’i gaffaeliad gwerth $250+ miliwn yn y pen draw gan gwmni Ewropeaidd mawr.
Yn y gorffennol mae Aled wedi gwasanaethu ar bwyllgor gweithredol y cwmni seiberddiogelwch enfawr Symantec, (NASDAQ: SYMC) lle bu’n gyfrifol am uned fusnes Norton fyd-eang gwerth $2bn.
Cyn hynny bu’n Brif Weithredwr Cineflex Camera Systems, gan oruchwylio gwaith gweithgynhyrchu systemau ffilmio o’r awyr o’r radd flaenaf ar gyfer ffilm a theledu. Fe’i defnyddiwyd ar draws cyfres nodedig y BBC Planet Earth a Frozen Planet (ac ennill EMMY Technegol) gan sefydlu Cineflex fel safon ar gyfer y diwydiant.
Mae Aled hefyd yn falch o wasanaethu fel Cadeirydd Aelodau Cyswllt Americanaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.