Helen Sanderson
Pennaeth Gitâr
Astudiodd Gail Pearson gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a chanu yn y Royal Northern College of Music. Gwnaeth ei hymddangosiad operatig cyntaf fel Gilda, Rigoletto i Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi hynny canodd sawl rhan i’r cwmni. Bu’n canu’n rheolaidd yn Ewrop, gan gynnwys yn Opera Paris, Gŵyl Salzburg (gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna), Opera de Lyon ac Opera de Nantes. Bu’n unawdydd cyson gydag English National Opera, a chanodd sawl rhan i’r Royal Opera House, Covent Garden, Scottish Opera a Holland Park Opera.
Mae ei phrofiad mewn cyngherddau yn helaeth. Perfformiodd gyda’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd y DU, gydag arweinwyr fel Richard Hickox, Syr Charles Mackerras a Wolfgang Sawallisch.
Mae Gail wedi rhannu’r llwyfan datganiadau gyda Llyr Williams, Gerald Martin Moore, Phillip Thomas, Michael Pollock a Christopher Williams.
Mae ei chatalog recordiadau’n cynnwys The Poisoned Kiss (Hickox) gan Vaughan Williams, Jenufa (Royal Opera House, Haitink), Semele (Curnyn) ac Ariadne auf (Naxos, Scottish Chamber Orchestra a Syr Richard Armstrong).
Mae Gail yn addysgu canu ers dros ugain mlynedd a dyfarnwyd Gwobr Syr Geraint Evans iddi gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei chyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Cymru ac addysg cerddoriaeth yng Nghymru.