Oliver Phillips
Tiwtor Gwneud Cyrs Obo
Rôl y swydd: Cerddoriaeth Bysellfwrdd
Adran: Piano
Anrhydeddau: MA (Astudiaethau Perfformio), B.Mus (Anrh), LRAM, LTCL, TA
Mae Emyr Roberts MA (Astudiaethau Perfformio), B.Mus (Anrh), LRAM, LTCL, TAR yn diwtor piano ac yn gyfeilydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Emyr yn addysgu sgiliau allweddellau uwch ar lefel gradd ac ôl-radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Emyr yn addysgu’r piano i ystod eang o ddisgyblion Ysgol y Bechgyn ac Ysgol y Merched Trefynwy. Mae’n arholwr a Hyfforddwr Gradd, Diploma a Jazz ar gyfer ABRSM ac wedi ymgymryd â theithiau arholi eang yn y Deyrnas Unedig, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal, De Affrica a Thwrci. Mae hefyd yn bennaeth yr adran allweddellau ar gyfer addysg ESTA sy’n darparu sawl cwrs ôl-radd ledled y byd.
Yn rhinwedd ei waith fel mentor piano i ABRSM mae Emyr wedi cyflwyno cyrsiau Datblygiad Proffesiynol yn y Deyrnas Unedig, Hong Kong, Singapôr ac Indonesia.
Ar ôl graddio o Brifysgol Sheffield dilynodd Emyr gwrs diploma ôl-radd blwyddyn o hyd yn Llundain cyn dechrau ar radd MA ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn dechrau ar ei astudiaethau yn Sheffield cafodd Emyr wersi piano yng Nghonservatoire Paris gydag Yvonne Loriod, gwraig y cyfansoddwr Ffrengig Olivier Messiaen.
Mae Emyr yn Gymro Cymraeg ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys gwylio chwaraeon byw, cerdded a choginio.