David Baxter
Arweinydd modiwl Rheolaeth yn y Celfyddydau
Astudiodd Jacqueline Pischorn ganu yn yr Hochschule für Musik yn Graz (KUG Kunstuniversität Graz bellach) yn Awstria ac yn y Trinity College of Music yn Llundain. Yn ystod ei hastudiaethau ôl-raddedig arbenigodd mewn gweithiau o’r 20fed a’r 21ain ganrif a chanodd sawl perfformiad cyntaf yn Llundain.
Canodd Jacqueline y perfformiad cyntaf o Kyng Orfeo, a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan Ian Schofield, yn Turner Sims Hall yn Southampton, gyda David Owen Norris yn cyfeilio iddi.
Ar ôl ei hastudiaethau gweithiodd Jacqueline yn helaeth fel unawdydd oratorio gyda pherfformiadau yn St. John Smith Square a Cadogan Hall, Llundain, ac i lawer o gymdeithasau corawl ledled y DU.
Yn fwy diweddar perfformiodd Mignonlieder John Hardy yn Dora Stoutzker Hall, gyda Nicola Rose yn cyfeilio. Fel perfformiwr cyngerdd mae Jacqueline yn cydweithio â’r gitarydd Michael McCartney, gan berfformio caneuon o’r oes glasurol yn ogystal â repertoire cyfoes.
Mae Jacqueline yn gweithio fel hyfforddwr Almaeneg i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Birmingham Conservatoire ac Academi Llais Ryngwladol Cymru ac mewn blynyddoedd blaenorol bu’n gweithio yn yr un rôl i De Nationale Reisopera yn yr Iseldiroedd.
Mae Jacqueline wrth ei bodd yn ei gwaith fel athrawes canu gyda myfyrwyr ifanc yn Ysgol Downehouse ger Newbury.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd ei llyfr German Diction for English-speaking Singers yn ei ail argraffiad o dan Augarten Press.