David Jones
Arweinydd Preswyl, Arwain Cerddorfaol
Wedi’i eni yng Nghymru, astudiodd Ben gyda Sharon McKinley ac Alexander Baillie cyn mynychu Ysgol Yehudi Menuhin i astudio gyda Thomas Carroll. Cwblhaodd ei Radd Baglor a’i Radd Meistr yn y Guildhall School of Music and Drama gyda Louise Hopkins, wedi’i gefnogi gan Help Musicians UK ac Ymddiriedolaeth Iarlles Munster. Yn 2016 dewiswyd Ben yn Gymrawd i gymryd rhan yng Ngŵyl Soddgrwth Piatigorsky yn Los Angeles ac ym mis Tachwedd y flwyddyn honno perfformiodd fel unawdydd ar gyfer Rownd Gynderfynol Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick yr LSO gyda Cherddorfa Symffoni y Guildhall.
Yn ddiweddar perfformiodd Ben mewn première byd o waith ar gyfer y soddgrwth a chôr gan Christian Henking gyda’r Basler Madrigalisten yn Schwarzenburg, y Swistir. Yn 2020, rhoddodd berfformiad premiere y DU o ‘Duo’ ar gyfer Soddgrwth a Phiano gan Anders Hillborg mewn Cyngerdd ‘Total Immersion’ BBC Radio 3 yn Neuadd Gyngerdd Milton Court, a dywedodd The Guardian ei fod ‘yn chwarae gyda manwl gywirdeb a mewnwelediad eithriadol’. Mae uchafbwyntiau eraill o ran cyngherddau yn cynnwys Datganiadau yn Neuadd Wigmore, Eglwys Sant Iago Piccadilly, St Martin-in-the-Fields a pherfformiadau Concerto yn Neuadd Cadogan, St John’s Smith Square, Neuadd Gyngerdd West Road a Neuadd Dora Stoutzker.
Ar hyn o bryd mae'n chwarae soddgrwth William Forster, a roddwyd ar fenthyg yn hael iddo gan Gymdeithas Frenhinol Cerddorion Prydain Fawr.
Tra’n fyfyriwr, cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth concerto Medal Aur y Guildhall, roedd yn Artist Sefydliad Concordia, Artist Park Lane Group, yn dderbynnydd The Suggia Gift gan Help Musicians UK a Gwobr David Goldman gan The Worshipful Company of Musicians, yn ogystal â bod yn dderbynnydd eu Gwobr Medal Arian fawreddog yn 2020, a enwebwyd gan y Guildhall.
Ben yw Cyfarwyddwr Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Llanilltud Fawr, mae’n athro soddgrwth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn perfformio cyngherddau cerddoriaeth siambr yn rheolaidd ledled Cymru ar gyfer Sinfonia Cymru a chafodd wahoddiad i fod yn Gyfarwyddwr Cwrs Gwadd ar gyfer Cwrs Soddgrwth Pro Corda 2022 yn Suffolk.