Pierre-Maurice Barlier
Hyfforddwr Ffrangeg
Caiff Cordelia Williams ei chydnabod am ddyfnder a dwyster ei chwarae. ‘Rhyfeddol’ (Gramophone), ‘dadleniad trawiadol’ (MusicWeb International); mae wedi perfformio ledled y byd, gan gynnwys concertos gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal â datganiadau yn Neuadd Wigmore, Neuadd yr Ŵyl Frenhinol a Neuadd Gyngerdd Beijing. Ymhlith ei recordiadau mae cerddoriaeth Schubert a Schumann; disgrifiwyd ei chryno ddisg yn 2018 a oedd yn cynnwys cerddoriaeth gan Bach a Pärt fel ‘cysyniad gwych... wedi’i wireddu’n rhagorol’, tra bod Nightlight yn 2021 yn Recordiad y Flwyddyn a Dewis y Beirniad: ‘artistwaith cyflawn’. Mae’n mwynhau cyflwyno’r gerddoriaeth y mae’n ei chwarae a defnyddio rhaglennu llawn dychymyg i adrodd straeon newydd.
Yn ogystal â phartneriaeth ddeuawd egnïol gyda’r feiolinydd Tamsin Waley-Cohen, mae Cordelia yn creu cydweithrediadau anarferol ar draws disgyblaethau. Ochr yn ochr â’i gyrfa berfformio enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth o Goleg Clare, Caergrawnt; arweiniodd ei chwilfrydedd tuag at grefyddau a ffydd at ei phrosiect blwyddyn o hyd, Between Heaven and the Clouds. Mewn partneriaeth â’r bardd gwobrwyedig Michael Symmons Roberts, cyn Archesgob Caergaint yr Arglwydd Rowan Williams a’r artist Sophie Hacker, archwiliodd y gyfres uchelgeisiol hon o ddigwyddiadau a pherfformiadau gerddoriaeth, cyd-destun a diwinyddiaeth Vingt Regards sur l’Enfant-Jésus gan Messiaen.
Yn 2021 treuliodd gyfnod yn perfformio, addysgu a ffilmio yn Kenya. Mae ei ffilm ddogfen On Being a Pianist in Kenya yn archwilio’r heriau sy’n wynebu darpar gerddorion clasurol ifanc yn Nairobi. Gellir dod o hyd i Cordelia ar YouTube yn youtube.com/CordeliaWilliams lle mae’n rhannu mewnwelediadau o ran ymarfer a fideos am fywyd perfformio.