Simon Lepper
Tiwtor Piano Cydweithredol a Hyfforddwr Llais
Rôl y swydd: Tiwtor Corn Ffrengig
Adran: Pres
James yw’r 2il chwaraewr corn gydag Opera Cenedlaethol Cymru, gan deithio o amgylch y DU yn rheolaidd, yn ogystal â theithiau tramor diweddar i’r Ffindir, Dubai, Oman a Hong Kong. Mae’n dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2015.
Ar ôl darllen Economeg ym Mhrifysgol Birmingham, astudiodd James y Corn Ffrengig yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama yn Glasgow. Roedd yn 3ydd Chwaraewr Corn gyda Scottish Ballet am nifer o flynyddoedd a pherfformiodd yn rheolaidd gyda Royal Scottish National Orchestra, BBC Scottish Symphony Orchestra, Scottish Chamber Orchestra a Scottish Opera.
Mae hefyd wedi gweithio gyda llawer o’r prif gerddorfeydd eraill ym Mhrydain, gan gynnwys y BBC Philharmonic, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Philharmonia a City of Birmingham Symphony Orchestra.