Nikki Thomas
Tiwtor Soddgrwth
Yn enedigol o Guernsey, dechreuodd Oliver Phillips ddysgu'r obo yn naw oed. Aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol (RCM), gan raddio gyda Baglor mewn Cerddoriaeth (Anrhydedd) Dosbarth Cyntaf. Fel Ysgolor John Nickson RCM, enillodd radd Meistr mewn Perfformio Cerddorfaol gyda Rhagoriaeth a dyfarnwyd Gwobr Obo Evelyn Rothwell iddo. Yn ei flwyddyn olaf, enillodd Oliver Ysgoloriaeth Gerdd Martin y Philharmonia Orchestra i chwaraewr chwythbrennau rhagorol ac yn sgil hynny rhoddodd ddatganiad unigol yn y Royal Festival Hall.
Wrth astudio yn yr RCM, darganfu Oliver ei gysylltiad naturiol â gwneud cyrs. Ar ôl graddio, dechreuodd wneud cyrs i nifer o oböyddion y DU ac mae bellach yn cyflenwi ei gyrs i lawer o brif gerddorfeydd y byd. Mae Oliver yn mwynhau addysgu gwneud cyrs obo yn yr Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Oliver yn parhau i fwynhau gweithio fel oböydd llawrydd, gan fod yn chwaraewr gwadd gyda’r Royal Philharmonic Orchestra, BBC Scottish Symphony Orchestra a’r Ulster Orchestra.