Jarosław Augustyniak
Tiwtor Basŵn
Rôl y swydd: Tiwtor Corn Hanesyddol
Adran: Pres
Anrhydeddau: BMus (Anrh) Academi Gerdd Frenhinol, LRAM mewn Addysgu Pres, Mastère-Métier de l’Orchestre Classique et Romantique (Centre d’Etudes Supérieures de Musique et de Danse de Poitou-Charentes) Cymrawd yr Academi Addysg Uwch / Advance HE, FRAM, ARAM, FRSA
Mae Anneke Scott yn ddehonglydd blaenllaw o grefft chwarae’r corn hanesyddol. Mae ei gwaith yn mynd â hi i bedwar ban byd a thrwy ganrifoedd cerddoriaeth gyda repertoire sy’n ymgorffori cerddoriaeth ac offerynnau o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd heddiw.
Mae’n brif chwaraewr corn mewn sawl ensemble perfformio hanesyddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol gan gynnwys Orchestre Révolutionnaire et Romantique Syr John Eliot Gardiner, English Baroque Soloists, Ensemble Pygmalion, Orchestra of the Sixteen, Irish Baroque Orchestra, a Dunedin Consort. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel prif chwaraewr gwadd mewn ensembles ledled y byd.
Mae Anneke yn mwynhau gyrfa ryngwladol fel unawdydd ac mewn siambrau a cherddorfeydd, gan berfformio ar amrywiaeth eang o gyrn hanesyddol. Mae ei harbenigedd mewn repertoire corn baróc yn sicrhau ei bod i’w chlywed yn aml yn perfformio ariâu obligato cyfansoddwyr fel Bach a Handel yn ogystal ag unawdau concerto o’r cyfnod hwn. Derbyniodd glod y beirniaid am eu recordiadau fel unawdydd ac mae’r rhain hefyd yn cynnwys tair disg o gerddoriaeth gan brif chwaraewr corn Paris y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Jaques-François Gallay.
Mae’n mwynhau cydweithio ag amrywiaeth eang o gerddorion ac mae’n un o’r aelodau a sefydlodd The Prince Regent’s Band ynghyd â Boxwood and Brass. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda chwaraewyr allweddellau cyfnod blaenllaw gan gynnwys Steven Devine, Neal Peres da Costa a Geoffrey Govier, a’r telynor Frances Kelly.
Mae addysgu ac ymchwil yn elfen allweddol o yrfa Anneke ac yn 2019 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn ei chyfres Historic Horns Handbook.
Yn 2018 etholwyd Anneke yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn 2020 dyfarnwyd iddi Wobr Punto yr International Horn Society.