Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Karen Pimbley

Rôl y swydd: Pennaeth Rhaglen Rheolaeth yn y Celfyddydau

Adran: Rheolaeth yn y Celfyddydau

Anrhydeddau: MA, SFHEA, PGDip, PGCE (AB), BA (Anrh), MILM

Bywgraffiad Byr

Mae Karen wedi bod yn Bennaeth hyfforddiant Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC ers 2012. Dechreuodd ei gyrfa fel Swyddog Marchnata yn Theatr Torch, Aberdaugleddau, ac yna bu’n gweithio gyda Diversions, Cwmni Dawns Cymru. Yng nghanol y 1990au, hi oedd Pennaeth Digwyddiadau cyntaf yr Arena Rhyngwladol oedd newydd agor yng Nghaerdydd. Symudodd i faes hyrwyddo cerddoriaeth gyda Kennedy Street Productions ym Manceinion a Raymond Gubbay a Harvey Goldsmith yn Llundain, gan deithio ledled y DU ac Ewrop gyda nifer o artistiaid pop a roc rhyngwladol. Yn ddiweddarach dychwelodd Karen i weithio yng Nghymru, gan ymgymryd â rôl uwch arweinydd a helpodd i sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Arbenigedd

Daw Karen â’i chefndir mewn arweinyddiaeth strategol, llywodraethu, ymchwil ac ymgynghoriaeth i’w gwaith yn CBCDC ochr yn ochr â’i phrofiad rheolaeth yn y celfyddydau llawrydd parhaus, sy’n amrywio o gynhyrchu ar raddfa fach ym meysydd theatr a dawns i ysgrifennu/cyflwyno hyfforddiant pecyn cymorth rheolaeth yn y celfyddydau ar gyfer sefydliadau addysg a’r sector creadigol. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau PhD yn archwilio datblygiad dawns gyfoes broffesiynol yng Nghymru ac mae hefyd yn gweithio gyda Chynghrair Diwylliannol Cymru – mae prosiectau diweddar yn cynnwys datblygu Contract Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru a gweithio i hybu cyfleoedd ar gyfer democratiaeth ddiwylliannol yn y celfyddydau ledled Cymru. Mae Karen wedi ymrwymo i ehangu mynediad at hyfforddiant celfyddydol waeth beth fo cefndir yr unigolyn ac i weithio mewn partneriaeth â diwydiant i ddatblygu graddedigion sy’n barod am waith.

Llwyddiannau Nodedig

Yn fwyaf diweddar, mae Karen wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn cynnal adolygiad cyflawn o faes dawns ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru. Treuliodd bedair blynedd fel Cyfarwyddwr UK Theatre (2017-21) lle, trwy’r pandemig, bu’n allweddol mewn datblygu canllawiau diogelwch Covid-19 ar gyfer y theatr. Mae hi’n Arholwr Allanol ar gyfer cyrsiau Rheolaeth yn y Celfyddydau ac Ymarfer Cydweithredol, yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae Karen hefyd yn ymddiriedolwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn Gydymaith Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Harvard. Bu’n Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru am nifer o flynyddoedd ac mae wedi bod yn aelod bwrdd gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol yn ystod ei gyrfa.

Proffiliau staff eraill