Thomas Verity
Tiwtor Clarinét
Gweithiodd Sean Crowley ar draws y sbectrwm dylunio ym maes ffilm, opera, theatr a theledu, gan ddylunio dros 200 o gynyrchiadau i gwmnïau ledled Cymru, Prydain ac Ewrop mewn 35 mlynedd o yrfa. Penodwyd Sean yn Bennaeth Dylunio yn CBCDC ym 1999 ac wedyn hefyd yn Gyfarwyddwr Drama yn 2011.
Sean oedd Cadeirydd Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain rhwng 2011 a 2019 a Chadeirydd Cymdeithas Cyrsiau Dylunio Theatr y DU rhwng 2001 a 2008. Etholwyd Sean i bwyllgor gweithredol yr Organisation of International Scenographers, Theatre Architects and Technicians yn 2013. Mae’n aelod o bwyllgor cynghori Gwobr Linbury ers 2002. Yn 2007, roedd Sean yn Arweinydd Prosiect a Chyd-Ddylunydd ar gyfer y Prague Quadrennial Scenofest – gŵyl ryngwladol ar gyfer dylunio a pherfformio – ac yn 2013, fel Arweinydd Prosiect ar gyfer World Stage Design 2013, helpodd i ddod â 13,000 o arddangoswyr, ymarferwyr ac ymwelwyr i Gaerdydd. Mae’n addysgwr ac yn ymarferydd, ac yn caniatáu i’r ddau faes hyn lywio ei ymarfer yn y naill a’r llall. Ei uchelgais yn y pen draw yw datblygu cenedlaethau o ymarferwyr perfformio yn y dyfodol sydd â hyblygrwydd yn eu hathroniaeth, ymagwedd gadarnhaol at ddatrys problem, a set o sgiliau uwch.
Mae’n Gymrawd er Anrhydedd yn CBCDC, derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2016 ac enillodd Wobr y Celfyddydau a Diwylliant Ysbrydoli Cymru.
Ef oedd rheolwr arddangosfa yn y Victoria and Albert Museum ar gyfer arddangosfeydd Make Space a Staging Places ar gyfer Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain yn 2015 a 2019 ac roedd yn Aelod o’r Panel Curadurol ar gyfer Dylunio a Pherfformio yn y World Stage Design 2017 yn Taipei. Mae’n Rheithor ar gyfer World Stage Design 2022 yn Calgary.
Sean oedd yr Arweinydd Prosiect ar gyfer World Stage Design, gŵyl 10 diwrnod o ddylunio perfformio