Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Alan Watson

Rôl y swydd: Tiwtor Seicoleg Perfformio ac Osgoi Anafiadau

Adran: Cerddoriaeth

Bywgraffiad

Mae Alan Watson yn Ddarllenydd (Emeritws) yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd ac mae wedi ennill graddau BSc (Anrh) mewn Sŵoleg (Caeredin) a PhD mewn Niwrowyddoniaeth (St Andrews). Ar ôl dilyn astudiaethau ôl-ddoethurol mewn niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ymunodd ag Adran Anatomeg Prifysgol Caerdydd ym 1989.

Arbenigedd

Mae Alan wedi addysgu anatomeg gros a niwrowyddoniaeth i fyfyrwyr meddygol a gwyddoniaeth ac wedi cynnal ymchwil niwrowyddoniaeth dros sawl degawd. Dechreuodd ymddiddori mewn ffisioleg cerddorion a’u problemau cyhyrysgerbydol ar ôl darganfod nad oedd y proffesiwn meddygol yn aml yn deall y rhain yn dda oherwydd nad oeddent yn cael eu hystyried mewn cyd-destun galwedigaethol. Wedi hynny daeth yn gysylltiedig â Chymdeithas Meddygaeth Celfyddydau Perfformio Prydain, a chwaraeodd ran mewn sefydlu gradd MSc mewn Meddygaeth Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi rhoi nifer o sgyrsiau ar y pynciau hyn mewn gwyliau gwyddoniaeth, celfyddydol a llenyddol a llawer o ddigwyddiadau eraill, ac wedi cymryd rhan mewn sawl darllediad radio (All in the Mind, Women’s Hour, Good Morning Wales ac ati). Dechreuodd addysgu yn CBCDC yn 2011.

Cyflawniadau nodedig

Roedd Alan yn Gymrawd Coffa Beit ar gyfer Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae wedi cydweithio â Kevin Price (CBCDC) ar astudiaethau o ffisioleg perfformio offerynnau pres, gan gwmpasu osgo, anadlu a swyddogaeth y genau. Mae’r rhain wedi cynnwys myfyrwyr CBCDC a Phrifysgol Caerdydd, yn ogystal â chwaraewyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r Coleg. Mae hyn wedi cael cymorth gan Wobr Pobl Ymddiriedolaeth Wellcome (2007-2009) a grant aml-conservatoire AHRC ‘Musical Impact’ (2013-2017). Alan yw awdur 'The Biology of Musical Performance and Performance Related Injury'(Scarecrow Press, 2009) ac, mewn cydweithrediad â Nichola Harrison (Coleg Penfro Rhydychen), 'A Singers’ Guide to the Larynx' (Compton Publishing, 2019). Mae’n Gymrawd Anrhydeddus CBCDC.

Proffiliau staff eraill