Marianne Vidal
Tiwtor Iaith
Rôl y swydd: Repetiteur
Adran: Piano
Anrhydeddau: FRWCMD
Enillodd Michael Pollock ysgoloriaeth gerddoriaeth i Goleg Magdalen, Rhydychen ac ar ôl graddio astudiodd gyfeiliant piano gyda Roger Vignoles yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Bu’n gyfeilydd swyddogol ar gyfer cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ar dri achlysur ac mae wedi darlledu’n aml ar Radio 3. Mae ei recordiadau’n cynnwys disg o ganeuon Saesneg gyda’r bariton Anthony Michaels-Moore, dau gasgliad o ganeuon Eidaleg gyda Rebecca Evans a Nuccia Focile, perfformiad cyntaf y byd o Towy Landscapes gan Alun Hoddinott, a’r ddau sonata i’r clarinét gan Brahms (ynghyd â’r sonata gan Nino Rota) gyda Leslie Craven.
Mae Michael wastad wedi mwynhau rhannu ei frwdfrydedd ynglŷn â’r repertoire o ganeuon celf gyda chyfeilyddion iau, ac mae llawer o’i gyn-fyfyrwyr bellach yn gyfeilyddion llwyddiannus yn eu rhinwedd eu hunain. Mae hefyd yn hyfforddi repetiteurs, gan gynnwys y rhai yn y National Opera Studio lle bu’n dysgu am fwy nag ugain mlynedd.
Ymhlith y cantorion niferus y mae Michael wedi cyfeilio iddynt yn ystod ei yrfa ryngwladol mae’r Fonesig Kiri Te Kanawa, gan roi datganiadau gyda hi yn Ewrop, Asia, Sgandinafia, ac yn 50fed Gŵyl Israel yn Jerwsalem; a Syr Bryn Terfel, gan ymddangos gydag ef yn y DU, Norwy, Asia, ac Awstralia, yn ogystal ag yn y Concertgebouw yn Amsterdam. Mae hefyd wedi cyd-chwarae â sawl offerynnwr gan gynnwys y fiolinydd Kerenza Peacock, y soddgrythorion Christopher Bunting a Steffan Morris, a’r clarinetwyr Leslie Craven a Robert Plane.
Mae Michael yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn Gydymaith Anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol.