Lara Ward
Tiwtor Symyd
Rôl y swydd: Tiwtor Sgiliau Addysgu ac Allgymorth
Adran: Llais
Anrhydeddau: ARWCMD
Graddiodd Dan fel repetiteur o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2005 ac mae galw mawr amdano fel arweinydd corawl, cyfeilydd piano, cyfarwyddwr cerdd ac arweinydd gweithdai. Gan arbenigo mewn opera i gynulleidfaoedd neu berfformwyr ifanc, ef yw cyfarwyddwr cerdd Opera Ieuenctid 10-18 Opera Cenedlaethol Cymru, a phrosiect Opera Ysgolion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae’n aml yn arwain gweithdai a pherfformiadau i deuluoedd, pobl sy’n byw gyda dementia, mewn ysgolion AAAA a phrif ffrwd, a chyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd fel arweinydd gweithdai i Streetwise Opera. Mae’n gyfansoddwr brwd o gerddoriaeth i gantorion ifanc a pherfformiwyd ei waith comisiwn Beekind gan dros 500 o blant ysgol fel rhan o dymor Rhyddid Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae’n gyn-aelod o Live Music Now a chafodd ei wneud yn aelod cyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2018.