Hannah Noone
Arweinydd Cwrs Interim Cyfarwyddo MA Opera
Rôl y swydd: Tiwtor Obo
Adran: Chwythbrennau
Mae Amy McKean yn Is-Brif Oböydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Thiwtor Obo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dechreuodd ei haddysg gerddorol yn Glasgow, lle y mynychodd Academi Iau RSAMD (y Royal Conservatoire of Scotland bellach), gan astudio gyda Steven West. Symudodd wedyn i Lundain i astudio ar ysgoloriaeth lawn gyda Christopher Cowie yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle yr enillodd radd Dosbarth Cyntaf Baglor mewn Cerddoriaeth gydag Anrhydedd a Thrwyddedog yr Academi Gerdd Frenhinol.
Ar ôl hyn, dyfarnwyd ysgoloriaeth DAAD iddi i astudio yn yr Almaen gyda Christian Wetzel a Gundel Janemann-Fischer (Cor Anglais, Cerddorfa Gewandhaus) yn yr Hochschule für Musik und Theater Felix Mendelssohn Bartholdy yn Leipzig. Flwyddyn wedyn, dyfarnwyd ysgoloriaeth bellach iddi astudio am radd Meistr mewn Cerddoriaeth yn yr Hochschule für Musik und Tanz Köln. Tra’r oedd yn astudio yng Nghwlen, ymgymerodd â rôl Prif Chwaraewr Cor Anglais gyda’r Deutsche Staatsphilharmonie Rheinland Pfalz yn Ludwigshafen.
Mae wedi chwarae gydag amryw gerddorfeydd yn y DU ac Ewrop ar yr obo a’r cor anglais gan gynnwys y London Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, BBC Philharmonic, Royal Scottish National Orchestra, Aurora Orchestra, Scottish Chamber Orchestra, Cologne Radio (WDR) Symphony Orchestra, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Zürich. Bu hefyd yn Brif Oböydd Gwadd gydag English National Opera, Scottish Opera a’r BBC Scottish Symphony Orchestra.
Mae Amy yn mwynhau chwarae cerddoriaeth siambr gydag aelodau eraill Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a staff addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae wedi darlledu’n fyw ar BBC Radio 3 gyda’i phumawd chwyth, Flourish.