Rebecca Prosser
Tiwtor Cofiadur
Rôl y swydd: Cyfarwyddwr Materion Allanol
Yn gyfathrebwr profiadol iawn, mae gyrfa Kate wedi cynnwys 17 o flynyddoedd yn niwydiant y cyfryngau yn BBC Cymru Wales, gan gynnwys chwech fel Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol lle bu’n gyfrifol am gyfeiriad strategol a chyflawni ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus allanol a chyfathrebu corfforaethol, gan gynnwys materion cyhoeddus, partneriaethau allanol ac amrywiaeth. Bu hefyd yn Bennaeth Cyfathrebu, Polisi a Strategaeth yn Chwaraeon Cymru ac, ychydig cyn ei rôl yn y Coleg, roedd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhanddeiliaid yn Cymwysterau Cymru.
Yn CBCDC, mae gan Kate gyfrifoldeb trosfwaol am farchnata, cysylltiadau cyhoeddus, recriwtio myfyrwyr, cyfathrebu, rhaglennu creadigol, partneriaethau ac allgymorth.
Astudiodd yn Sefydliad Theatr Lee Strasberg yn Efrog Newydd cyn ei gyrfa ym maes cyfathrebu, a ddechreuodd fel Rheolwr Prosiect Cysylltiadau Cyhoeddus ar ymgyrch ddatganoli trawsbleidiol Ie dros Gymru ym 1997.