Brett Robinson
Hyfforddwr Eidaleg
Mae Sebastian See-Schierenberg, feiolinydd cyngerdd Almaenig-Tsieineaidd Prydeinig, athro, beirniad cystadlaethau, hyfforddwr cerddoriaeth siambr, arweinydd cerddorfaol, hyrwyddwr cyngherddau a chyfarwyddwr prosiectau elusennol, wedi bod yn weithgar yn Asia ers dros 20 mlynedd ac mae’n athro y mae galw mawr amdano yno. Caerdydd yw ei ganolfan erbyn hyn ond mae’n dal i deithio’n rheolaidd i Asia. Mae llawer o’i fyfyrwyr ffidil blaenorol wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau Rhyngwladol yn enwedig yn rhanbarth Asia ac wedi ennill ysgoloriaethau i astudio mewn ysgolion cerdd enwog ledled y byd, gan gynnwys y New England Conservatory Boston, Frankfurt Musikhochschule, Northwestern Chicago, Conservatoire Singapôr, Royal Academy of Music Llundain, Conservatoire Lyon a llawer mwy.
Enillodd Sebastian ysgoloriaeth ei hun i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain pan oedd yn 16 oed lle bu’n astudio gydag Itzhak Rashkovsky. Parhaodd â’i astudiaethau gyda’r athrawon enwog Valery Klimov (enillydd cystadleuaeth 1af Tchaikovsky a myfyriwr i David Oistrakh) yn yr Almaen, a Maya Glissarova ym Moscow. Yn sgil ei lwyddiant cynnar mewn cystadlaethau cafodd Sebastian ymddangos am y tro cyntaf yn Llundain yng Nghanolfan Southbank ac ar ôl hynny perfformiodd yn eang mewn lleoliadau enwog fel Konzerthaus Berlin, Luxembourg Philharmonie, Singapore Esplanade, Palais des Beaux Arts Brwsel a llawer mwy. Yn 2000, ymunodd â Cherddorfa Ffilharmonig Malaysia, gan roi 120 o gyngherddau bob blwyddyn a theithio drwy ranbarth Asia a’r Môr Tawel am 6 blynedd.
Mae wedi recordio ar gyfer Signum Classics, a chafodd ei ddisg ‘Sounds of Spain and the Americas’ lawer o lwyddiant.
Ar hyn o bryd mae Sebastian yn canolbwyntio ar ei gariad tuag at ddysgu ac mae myfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer cystadlaethau a chlyweliadau pwysig yn troi ato yn aml. Mae’n feirniad cystadlaethau profiadol. Mae’n arwain, yn hyfforddi grwpiau siambr a cherddorfeydd, yn rheoli prosiectau elusennol, ac yn rhoi dosbarthiadau meistr ar y ffidil yn Asia lle mae’n cael ei wahodd yn rheolaidd gan y Prifysgolion a’r ysgolion blaenllaw yno.
Mae Sebastian wedi ymrwymo i waith elusennol sy’n creu cyfleoedd addysgol i gerddorion ifanc. Ef yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr elusen Live4Music y DU, sy’n rhedeg prosiect Orchestra for Myanmar, prosiect New Children’s Choir, a’r Violin Study Program for Blind Children yn Yangon. Dros wyth mlynedd o weithgarwch, cododd dros 900,000 o ddoleri UDA o gyllid a chymorth ymarferol ar gyfer prosiectau addysg cerddoriaeth yn Burma. Bu’n darparu hyfforddiant ac yn arwain llawer o gyngherddau mawr ar y teledu gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Cerddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Ieuenctid yr UE, Cerddorfa Opera Bruno Baroletti (Parma), Cantorion y BBC, Dirprwyaeth yr UE, Llysgenadaethau Prydain, UDA, Swistir a’r Eidal, Mercedes Benz, Cathay Pacific, British Council, Sefydliad Goethe a Sefydliad Ieuenctid Marga, ymhlith eraill. Cyrhaeddodd cyngerdd lansio prosiect Orchestra for Myanmar, dan arweiniad Sebastian, dros 7 miliwn o bobl ar y cyfryngau.
Mae hefyd wedi sefydlu a rheoli rhaglenni cerddorfa linynnol hynod lwyddiannus mewn partneriaeth ag ysgolion Americanaidd a Phrydeinig Ryngwladol yn Asia.
Lorem ipsum doler sit amet Vimeo seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Lorem ipsum doler sit amet Vimeo seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Lorem ipsum doler sit amet Vimeo seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.