Mario Ferelli
Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Is-Ganghellor, Prifysgol De Cymru
Ymunodd Dr Ben Calvert â Phrifysgol De Cymru yn 2015 fel Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr, cyn dod yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2019. Dechreuodd yn ei swydd fel Is-Ganghellor ym mis Medi 2021.
Cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru bu’n gweithio ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, gan symud o fod yn Arweinydd Cwrs, i Bennaeth Adran, i Ddeon y Gyfadran; swydd a ddaliodd am chwe blynedd.
Fel Deon, bu Ben yn rheoli ar draws maes disgyblaethol eang gan gynnwys Ysgolion y Cyfryngau, y Dyniaethau, Celf a Dylunio a Chyfrifiadura a Thechnoleg. Sefydlodd Ben nifer o gyrsiau gradd newydd gan gynnwys Cerddoriaeth Boblogaidd, Cynhyrchu Teledu a Chynhyrchu Radio, ac roedd yn rhan o dîm a sicrhaodd achrediad Academi Skillset ar gyfer Ysgol y Cyfryngau.