Natalie Roe
Cyn Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: MA (Cantab), DipRAM, LRAM, MSc, ARAM
Mae Lowri yn feiolinydd, blaenwr a phrif chwaraewr llawrydd y mae galw mawr amdani. Tan fis Rhagfyr 2022 roedd yn Gyd-flaenwr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Ers gadael, mae ei gwaith wedi cynnwys prif chwaraewr gwadd gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa y Tŷ Opera Brenhinol, Cerddorfa Siambr Knussen a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.
Ymunodd Lowri ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2005 a chafodd yrfa ddisglair a buddiol gyda’r cwmni, gan ymddangos yn rheolaidd fel Blaenwr y Gerddorfa. Tra gyda’r WNO bu’n chwaraewr gwadd fel Blaenwr Cerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Ffilharmonig y BBC, a Chyd-flaenwr Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Cyn ymuno â WNO roedd yn brif Ail Feiolin Theatr Bale Northern, gan chwarae’n rheolaidd hefyd gyda’r Scottish Ensemble.
Mae Lowri yn angerddol nid yn unig am ddatblygiad cerddorol a thechnegol myfyrwyr ond hefyd helpu i ddatblygu eu galluoedd sydd ddim yn ymwneud â chwarae. Yn 2020 enillodd ragoriaeth ar ôl cwblhau ei chwrs gradd Meistr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn astudio Gwyddor Perfformio, gan gwmpasu pynciau a oedd yn cynnwys seicoleg perfformio, addysg perfformio ac iechyd a lles cerddorion. Hyfforddodd hefyd fel hyfforddwr drwy’r Guildhall School of Music and Drama, gan ennill ei dyfarniad Ymarferydd drwy’r Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewropeaidd (EMCC) yn 2022. Mae bellach yn cynnal cyfres o seminarau ar gyfer arbenigwyr llwybr cerddorfaol ôl-radd CBCDC sy’n ymdrin â sgiliau seicolegol, emosiynol a chymdeithasol.
Wedi’i geni yng Nghaerdydd ym 1977, astudiodd Lowri Gerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, cyn astudio gyda Howard Davis a Marianne Thorsen yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn ystod ei chyfnod yn yr Academi dyfarnwyd gwobr DipRAM iddi a bu’n flaenwr Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar fe’i gwnaed yn Gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol i gydnabod ei chyflawniadau. Mae’n chwarae ar feiolin Testore.