
Ian Barnard
Rôl y swydd: Darlithydd mewn Theatr Dechnegol
Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Bywgraffiad
Dechreuodd Ian ar ei yrfa fel technegydd lleoliad, ond mae wedi gweithio ym mhob rôl yn adran sain theatr, gan gynnwys Pennaeth Sain, Peiriannydd Sain Cynhyrchu, Cynllunydd Cyswllt a Chynllunydd Sain i gwmnïau ledled y Deyrnas Unedig. Treuliodd nifer o flynyddoedd hefyd mewn rôl gefnogol yn gweithio gyda sioeau cerdd mawr gan deithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Arbenigedd
Mae Ian wedi cynllunio sain i ddramâu a sioeau cerdd ar gyfer cwmnïau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys; yr RSC a Dinas Diwylliant Coventry, Stockroom, Theatre Royal Bath, Theatr Sherman, a Theatr na nÓg. Bu’n Bennaeth Sain ac mae wedi cymysgu nifer o deithiau sioeau cerdd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Ian hefyd wedi gweithio fel Cynllunydd Sain a Golygydd/Cymysgydd ar ddramâu sain, ac i Ysgol Actio Guildford i gynhyrchu arddangosfeydd y myfyrwyr wedi’u ffilmio.