Cornett and Sakbut Ensemble
Ensemble Pres Perfformiad Hanesyddol Preswyl
Wedi'i henwi fel 'cerddor talentog rhyfeddol' (Leonberg Kreiszeitung) gyda 'thechneg wych' (Seistro, Athens), cynigiwyd ysgoloriaeth MMus i Despina i astudio harpsicord yn GSMD Llundain ar ôl graddio o CBCDC â Gwobr y Prifathro.
Fel chwaraewr continwo, mae wedi cyfeilio mewn dosbarthiadau meistr i Jordi Savall ac ymddangos yn y Queen Elizabeth Hall gyda Musicians of London a’r Goldsmiths Choral Union yn Israel yn yr Aifft gan Handel. Gyda’r ensemble Babillage cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Cerddoriaeth Gynnar Ryngwladol Efrog, a pherfformiodd yng Ngŵyl Ymylol Cerddoriaeth Gynnar XXIV Barcelona ac wedi hynny fe’i gwahoddwyd i gymryd rhan mewn cyfres o gyngherddau ar gyfer Café Zimmermann, a ddarlledwyd ar Radio Sbaen.
Mae Despina wedi cydweithio’n helaeth â’r gitarydd enwog John Mills ac mae’n perfformio’n rheolaidd gyda’r gyfansoddwraig a’r ffliwtydd Sofia Mavrogenidou; gyda hi, recordiodd gerddoriaeth gan Miloš Štědroň a ryddhawyd yn y Weriniaeth Tsiec. Mae ei huchafbwyntiau perfformio yn cynnwys datganiad yn Amgueddfa V&A i anrhydeddu Tywysog Cymru fel rhan o ddathliadau agor British Galleries. Yn Athen mae wedi perfformio gyda'r Camerata Orchestra o dan yr arweinyddion Alexandros Myrat a Christopher Warren-Green.
Despina a’r fiolinydd baróc Magdalena Cieślak yw aelodau sefydlol yr ensemble Indigo, sy’n archwilio cerddoriaeth gydag elfennau baróc, jazz a Cheltaidd.
Yn ei rôl fel tiwtor harpsicord a basso continuo yn CBCDC, mae Despina yn mwynhau gweithio gyda myfyrwyr o Brydain a myfyrwyr rhyngwladol; mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymarfer perfformio repertoire allweddellau cynnar ar y piano.