Sarah Bennington
Tiwtor Ffliwt
Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: BA (Anrh), ARCM
Ganwyd Jonathan Burgess yn Swydd Rydychen. Dechreuodd ei hyfforddiant cerddorol fel corydd yng Nghôr Coleg Newydd, Rhydychen. Fel ffliwtydd o fyfyriwr, roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr a’r Britten Pears Orchestra. Darllenodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi hynny dyfarnwyd ysgoloriaeth ôl-raddedig iddo yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r astudiodd gyda’r ffliwtydd llawn ysbrydoliaeth, Sebastian Bell.
Ar ôl graddio, gweithiodd gyda llawer o gerddorfeydd ac ensembles, gan gynnwys London Sinfonietta, City of Birmingham Symphony Orchestra, Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Philharmonic Orchestra a’r Endymion Ensemble.
Ef yw’r Prif Ffliwtydd presennol gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n seiliedig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ac mae’n teithio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig a thramor. Fel unawdydd, perfformiodd holl goncertos Mozart i’r ffliwt gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a gweithiodd gyda llawer o arweinwyr nodedig fel Pierre Boulez, Charles Mackerras, Carlo Rizzi, Andrew Litton, Vladimir Jurowski a Mark Wigglesworth. Mae hefyd wedi chwarae fel Prif Ffliwtydd Gwadd i’r Bournemouth Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera North.
Fel Tiwtor Ffliwt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae’n cynnig cyfoeth o brofiad o arwain a mentora myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig drwy ddull strwythuredig a chydweithiol. Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn bwysig iawn iddo, wrth i fyfyrwyr dethol weithio ar leoliad gyda’r gerddorfa a magu profiad amhrisiadwy.